- Current language: en
Amdanom ni
English version
Fe sefydlwyd Swyddfa’r Comisiwn Ewropeaidd yng Nghymru yng Nghaerdydd ym 1976. Heddiw, rôl y Swyddfa yw cynrychiolaeth wleidyddol y Comisiwn Ewropeaidd yng Nghymru, a hithau’n gweithredu ym meysydd materion cyhoeddus, diplomyddiaeth gyhoeddus, cysylltiadau gwleidyddol, gweithgarwch sy’n ymwneud â’r wasg a’r cyfryngau, ac allgymorth i’r cyhoedd. Mae Swyddfa’r CE hefyd yn ceisio hwyluso a bod yn gyfryngwr ar gyfer cysylltiadau rhwng awdurdodau a grwpiau buddiant yng Nghymru ar y naill law a sefydliadau’r UE ar y llall, gyda golwg ar feithrin cysylltiadau agosach rhwng y ddau. Pennaeth y Swyddfa yw David Hughes.
Dilynwch ni ar:
Swyddfa'r Comisiwn Ewropeaidd yng Nghymru
2 Pentir Caspian,
Ffordd Caspian,
Caerdydd,
CF10 4QQ
Tel: 029 20895020
Fax: 029 20895035
Oriau agor: 8am - 6pm
_________________________________
See also:
Our Team

David Hughes
Pennaeth Swyddfa
E-bost: david.hughes@eu-imforg.com
Sian Stoodley
Allgymorth a Gwybodaeth – (gwybodaeth, cyhoeddiadau, digwyddiadau, ysgolion)
E-bost: Sian.Stoodley@eu-imforg.com
Leri Davies
Allgymorth a Gwybodaeth – (gwybodaeth, cyhoeddiadau, digwyddiadau, ysgolion)
E-bost: Leri.Davies@eu-imforg.com
Rachael Davies
Y Wasg a Materion Gwleidyddol -(y cyfryngau a'r wasg, dadansoddi gwleidyddol)
E-bost: Rachael.Davies@eu-imforg.com
Christine McGrath
Rheolwr y Swyddfa – (logisteg, cydgysylltu)
E-bost: Christine.McGrath@eu-imforg.com
Y Gymraeg
Mae gan y Gymraeg statws “cyd-swyddogol” yn sefydliadau’r Undeb Ewropeaidd. Cymeradwywyd y statws hwn gan Gyngor Gweinidogion yr Undeb Ewropeaidd ym mis Gorffennaf 2008, yn dilyn cais a gyflwynwyd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Gall ieithoedd cyd-swyddogol gael rhai gwasanaethau yn yr UE, megis er enghraifft cyfieithu ar y pryd yn ystod cyfarfodydd, cyfieithu deddfwriaeth derfynol neu'r posibilrwydd i ddinasyddion ohebu â sefydliadau’r UE yn yr iaith.
Beth mae hyn yn ei olygu’n ymarferol?
Gall dinasyddion ysgrifennu at y Comisiwn Ewropeaidd yn Gymraeg a disgwyl ateb yn Gymraeg.
Swyddfa’r Comisiwn Ewropeaidd yng Nghymru a’r Gymraeg
Ar wahân i’r statws cyd-swyddogol, mae Swyddfa’r Comisiwn Ewropeaidd yng Nghymru’n gweithio i gyfieithu cyhoeddiadau allweddol i’r Gymraeg. Mae’r cyhoeddiadau hyn ar gael trwy’r Swyddfa neu drwy Siop Lyfrau’r Undeb Ewropeaidd.
Gallwch hefyd ffonio neu ysgrifennu at y Swyddfa yng Nghymru, a byddwn yn hapus i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg.





